Donald Trump (Michael Vadon CCA4.0)
Mae dau Seneddwr Gweriniaethol yn yr Unol Daleithiau wedi tanseilio ymgyrch diweddaraf eu plaid i ddiddymu system gofal iechyd ‘ObamaCare’ a gosod cyfundrefn newydd yn ei le.

Mae penderfyniad y Seneddwyr Mike Lee a Jerry Moran i gefnu ar y ddeddfwriaeth yn golygu nad oes gan eu plaid y mwyafrif angenrheidiol bellach, er mwyn pasio’r mesur fyddai’n medru gweithredu’r newid.

Dywedodd y Seneddwyr nad ydyn nhw’n fodlon cefnogi’r mesur ar ei ffurf bresennol. Mae dau Seneddwr Gweriniaethol arall, Susan Collins a Rand Paul, eisoes wedi cefnu ar y mesur.

Yn sgil hyn, mae Arweinydd y Gweriniaethwyr yn y Senedd, Mitch McConnell, wedi cyhoeddi bod y blaid am gilio a chynnig mesur symlach fyddai’n diddymu ‘ObamaCare’ yn unig.

“Yn anffodus, mae hi’n amlwg yn awr na fydd ein hymgais i ddiddymu ObamaCare a chyflwyno mesur newydd yn ei le yn syth, yn llwyddo,” meddai Mitch McConnell.

Y cyn-Arlywydd Barack Obama oedd wedi cyflwyno’r cynllun gofal iechyd ‘ObamaCare’ ond cafodd ei wrthwynebu’n chwyrn gan y Gweriniaethwyr ar y pryd.

Mae’r Arlywydd Donald Trump wedi bod yn awyddus i ddiddymu ObamaCare a chyflwyno system gofal iechyd newydd yn ei le.