Mae dynion arfog gyda mygydau i guddio eu hwynebau wedi saethu pump o blismyn yr Aifft yn farw ger rhai o byramidiau hyna’r wlad yn Giza.
Roedd y dynion ar gefn motobeics wrth iddyn nhw yrru heibio check point ym mhentref Abusir yn Badrashin ar gyrion Cairo yn oriau mân y bore yma.
Mae’r heddlu yno yn gwarchod Saqqara, un o safleoedd twristaidd mwyaf poblogaidd yr Aifft sy’n gartref i gasgliad o demlau, beddrod a mannau claddu.
Fe wnaeth y dynion mewn mygydau ddwyn radios ac arfau’r dioddefwyr a cheisio rhoi cyrff y meirw ar dân.
Mae ymosodiadau niferus yn yr Aifft ers i’r fyddin ddisodli’r arlywydd Islamaidd etholedig Mohamed Morsi.
Wythnos yn ôl fe hawliodd y Wladwriaeth Islamaidd mai nhw fu’n gyfrifol am ladd o leiaf 23 o filwyr yn yr Aifft.