Logo Boko Haram
Mae o leiaf 15 o bobol wedi’u lladd, a 42 wedi’u hanafu, gan ymosodiad hunanfomiwr yng ngogledd Cameroon.

Fe aeth dau ymosodwr i mewn i dref Waza yn hwyr nos Fercher (Gorffennaf 12) ac fe ffrwydrodd un ohonyn nhw ddyfais ger criw o bobol ifanc.

Mae aelodau o fudiad Boko Haram yn Nigeria wedi bod yn croesi’r ffin i wledydd cyfagos – sy’n cynnwys Cameroon – yn enwedig os ydyn nhw’n cyfrannu at lu milwrol sy’n ceisio cael gwared â gwrthryfelwyr.

Mae’r grwp Islamaidd wedi lladd mwy na 20,000 o bobol yn ystod yr wyth mlynedd ers ei sefydlu, ac wedi herwgipio miloedd o bobol eraill.