Y Cardinal George Pell (Llun: AP Photo/Gregorio Borgia)
Mae ymgynghorydd cyllid y Pab Ffransis wedi dychwelyd i Awstralia i wynebu nifer o gyhuddiadau o droseddau rhyw hanesyddol.

Y Cardinal George Pell, 76, un o brif Gardinaliaid yr Eglwys Gatholig yn Awstralia ac uwch-swyddog mwyaf dylanwadol y Fatican i gael ei gyhuddo mewn cysylltiad â’r sgandal yn ymwneud a cham-drin plant yn rhywiol.

Fe gyrhaeddodd maes awyr Sydney ddydd Llun ar gyfer yr achos llys.

Mae George Pell yn gwadu’r cyhuddiadau yn ei erbyn.