Mae lluoedd Irac “ddegau o fetrau” i ffwrdd o adennill dinas Mosul oddi ar Daesh – neu’r ‘Wladwriaeth Islamaidd’.
Lai nag un metr sgwâr sydd ganddyn nhw erbyn hyn, ond mae pobol gyffredin yn cael eu defnyddio fel tariannau, sy’n eu gwneud hi’n anodd ymosod ar y ddinas o’r awyr.
Mae’r ddwy ochr wedi cyfaddef fod y cyrchoedd bron iawn â dod i ben.
Ond mae’r ymdrechion wedi arafu rywfaint dros y dyddiau diwethaf.
Mae’r brwydro wedi para bron i naw mis erbyn hyn.