Mae o leiaf 14 o bobol wedi cael eu lladd yn dilyn brwydr saethu yng ngogledd Mecsico.

Yn ôl awdurdodau Chihuahaua, fe ddigwyddodd y frwydr rhwng dau giang yn nhref Las Varas, tua 185 milltir i’r gogledd-orllewin o brifddinas y dalaith.

Aelodau gang La Linea a charfan o gartel Sinaloa oedd yn rhan o’r sgarmes, ac fe gafodd 20 dryll eu ddarganfod ar safle’r frwydr.

Mae’r heddlu yn dal i gynnal ymchwiliad yno.

Mae’r nifer o laddiadau ym Mecsico ar ei uchaf ers 20 mlynedd wrth i garfanau o gartelau cyffuriau fynd ben-ben.