Mae disgwyl i Arlywydd yr Unol Daleithiau amlinellu ei weledigaeth am ddyfodol y berthynas rhwng America ac Ewrop heddiw, wrth iddo ymweld â Gwlad Pwyl.

Yn ystod ei ymweliad 16 awr, fe fydd Donald Trump yn cwrdd ag arweinwyr o wledydd canol a dwyrain Ewrop, ac mi fydd yn traddodi araith yn Sgwâr Krasinski.

Methodd Donald Trump â gwneud argraff dda ar arweinwyr Ewrop yn ystod ymweliad fis Mai, ond mae’n bosib y bydd y daith ddiweddaraf yn un llai lletchwith iddo.

Mae llywodraeth geidwadol Gwlad Pwyl yn rhannu’r un daliadau â Donald Trump o ran mewnfudo a sofraniaeth, ac mae’n debyg eu bod wedi addo croeso cynnes a chynulleidfaoedd mawr iddo.

Mae Donald Trump eisoes yn paratoi ar gyfer cael ei ail ethol yn 2020, a thrwy’r ymweliad yma mae’n bosib gall gryfhau ei gefnogaeth ymysg Americaniaid o dras Bwylaidd.