Kim Jong Un, arweinydd Gogledd Corea
Mae lefel bygythiad Gogledd Corea i’r Unol Daleithiau wedi “dwysáu” yn sgil lansiad taflegryn balistig newydd ddoe, yn ôl Ysgrifennydd Gwladol America.

“Mae angen ymateb rhyngwladol i atal bygythiad byd-eang,” meddai Rex Tillerson. “Mae unrhyw wlad sydd yn helpu Gogledd Corea yn economaidd neu’n filwrol, yn cynorthwyo cyfundrefn beryglus.”

Fe lwyddodd y taflegryn ‘Hwasong-14’ i hedfan yn hirach ac yn bellach nag unrhyw daflegryn arall sydd wedi ei brofi gan Ogledd Corea o’r blaen.

Er gwnaeth y taflegryn blymio i’r môr ger Japan ar ôl hedfan dros 580 milltir gallai fod wedi teithio mor bell ag Alaska, yn ôl gwyddonwyr Americanaidd.

Ymatebodd milwyr yr Unol Daleithiau â De Corea i’r lansiad trwy danio taflegrau i ddyfroedd gorynys Corea.