Safle'r ddamwain bws yn yr Almaen (LLun: News5 / Fricke/NEWS5/dpa via AP)
Mae’r heddlu’n credu bod 18 bobol wedi marw ar ôl i fws wrthdaro a lori cyn mynd ar dân yn ne’r Almaen.

Cafodd 30 o bobol eu hanafu, rhai’n ddifrifol, ac maen nhw wedi cael eu cludo i’r ysbyty.

Yn ôl yr heddlu, roedd dau yrrwr a 46 o deithwyr ar y bws pan darodd lori ar draffordd yr A9 ger Muenchberg yn Bafaria y bore yma.

Yn dilyn y gwrthdrawiad, aeth y bws ar dân.

Mae’r gwasanaethau brys wedi cau’r A9 i’r ddau gyfeiriad.