Mae un o arweinwyr lleol y Taliban wedi’i ladd tra’n ymladd lluoedd diogelwch yn nhalaith Wardak yn nwyrain Afghanistan.

Fe gafodd Mullah Bashir, llywodraethwr ardal Nirkh, ei ladd ynghyd â dau wrthryfelwr arall mewn brwydr yn hwyr nos Wener.

Neithiwr hefyd, fe laddwyd beth bynnag 13 o wrthryfelwyr, yn cynnwys pump o aelodau’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) gan gyrchoedd awyr yn nhaleithiau Paktika yn y dwyrain; a Sr-e Pul a Jawzjan yn y gogledd.

Fe ddigwyddodd y cyrchoedd dros nos, gan ddinistrio cuddfannau, arfau a cherbydau’r gwrthryfelwyr.