Mae’r blaid sosialaidd asgell chwith wedi ennill mwyafrif yn etholiad cyffredinol Albania.

Fe ddaw’r canlyniad wrth i’r wlad obeithio dechrau trafod ymuno â’r Undeb Ewropeaidd.

Gyda 95% o’r pleidleisiau wedi’u cyfri, mae plaid sosialaidd y Prif Weinidog, Edi Rama, wedi sicrhau tua 48% o’r rheiny, neu 74 o seddi yn y senedd o 140 o seddi.

Roedd y llywodraeth flaenorol yn glymblaid rhwng y Sosialwyr a’r Mudiad Sosialaidd Cynhwysol.

Fe enillodd plaid y Democratiaid 29% o’r bleidlais (43 sedd), a’r Mudiad Sosialaidd Cynhwysol (LSI) oedd yn drydydd gyda 19 o seddi. Roedd y tyrnowt yn 46.6%.

Fe enillodd Albania, cenedl o 2.9 miliwn o bobol, statws ymgeisydd i fod yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd, yn 2014.