Mae bws yn cario myfyrwyr, rhieni ac athrawon o ysgol ddawns yn yr Ariannin, wedi troi drosodd, gan ladd o leia’ 15 o bobol.

Mae naw o bobol ifanc yn eu harddegau, ynghyd â gyrrwr y bws, ymhlith y rheiny sydd wedi marw, meddai’r awdurdodau.

Fe ddigwyddodd y ddamwain yn nhalaith Mendoza, rhyw 1,000km (neu 620 milltir) i’r gorllewin o’r brifddinas, Buenos Aires.

Mae 21 o bobol eraill wedi’u cludo i’r ysbyty – ac yn eu plith y mae pedwar plentyn ifanc.

Roedd myfyrwyr yr ysgol ddawns yn dychwelyd o dwrnament yn ninas San Rafael.