Mae 148 o bobol wedi marw mewn tân ar dancer olew ym Mhacistan. Mae dwsinau o bobol eraill mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.

Roedd y tancer yn gyrru o borthladd Karachi yn ne Pacistan, i Lahore, prifddinas talaith y Punjab, pan gollodd y gyrrwr reolaeth o’r cerbyd ar y ffordd ger Bahawalpur.

Fe ddigwyddodd y trychineb pan ymgasglodd cannoedd o drigolion pentref ar y safle lle’r oedd tancer olew wedi troi drosodd. Roedd olew yn gollwng o’r tancer.

Y gred ydi mai sbarc o un o’r llu ceir a beiciau modur a rasiodd i’r fan, oedd yn gyfrifol am gynnau’r tân.

Roedd cyrff y meirwon wedi llosgi i’r fath raddau nes ei bod yn amhosib eu nabod, ac fe gafodd y rhai ag anafiadau gwael eu cludo mewn hofrenyddion y fyddin i Multan, rhyw 60 milltir i ffwrdd. Ymhlith y meirwon roedd dynion, merched a phlant.