Mae dau newyddiadurwr a gafodd eu herwgipio ddechrau’r wythnos gan wrthryfelwyr asgell chwith yng Ngholombia wedi cael eu rhyddhau.

Daeth cadarnhad fod Derk Bolt ac Eugenio Follender yn “weddol o dan yr amgylchiadau”.

Dywedodd yr awdurdodau yng Ngholombia fod y ddau wedi’u herwgipio ddydd Llun gan aelodau’r Fyddin Ryddid Genedlaethol.

Mae lle i gredu eu bod nhw wedi bod yn gohebu yn rhanbarth Catatumbo ger y ffin â Venezuela.

Mae Derk Bolt yn gyflwynydd teledu, tra bod Eugenio Follender yn ddyn camera ar raglen sy’n ceisio aduno teuluoedd.

Dywedodd Derk Bolt wrth orsaf radio yng Ngholombia fod y ddau wedi cael eu trin yn iawn tra eu bod nhw’n gaeth.