Adolf Hitler
Mae perchennog y tŷ lle cafodd yr unben Adolf Hitler ei eni wedi penderfynu herio llywodraeth Awstria yng ngoruchaf lys y wlad, yn sgil eu hymgeision i feddiannu’r adeilad.

Fe gyflwynodd llywodraeth y wlad fesur i gymryd meddiant o’r tŷ pan wnaeth y perchennog, Gerlinde Pommer, wrthod ei werthu.

Gerbron goruchaf lys Awstria, dywedodd swyddogion y llywodraeth eu bod nhw wedi penderfynu cymryd meddiant o’r tŷ pan wrthododd y perchennog newid agweddau ar yr adeilad hefyd.

Bwriad Llywodraeth Awstria yw newid edrychiad blaen y tŷ er mwyn ei wneud yn llai apelgar i bobol o’r asgell dde eithafol sydd yn gweld yr adeilad fel cofeb i’r unben.

Mae’r tŷ wedi ei leoli yn Braunau am Inn a chafodd Adolf Hitler ei eni yno yn 1889.