Mae mwy na 1,500 o ddiffoddwyr tân ym Mhortiwgal yn dal i geisio dod a thanau gwyllt o dan reolaeth.
Cafodd 62 o bobl eu lladd mewn un o’r tanau nos Sadwrn ger tref Pedrogao Grande. Mae tua 1,000 o ddiffoddwyr yn dal i geisio brwydro’r tân tua 90 milltir i’r gogledd o Lisbon.
Mae Portiwgal yn cynnal tri diwrnod o alaru er cof am y rhai fu farw.
Mae disgwyl i gymorth ychwanegol gyrraedd heddiw, gan gynnwys awyrennau sy’n gollwng dŵr, o Sbaen, Ffrainc a’r Eidal fel rhan o raglen cyd-weithio gyda’r Undeb Ewropeaidd.
Mae’r tywydd poeth, gyda’r tymheredd yn codi i 40F (104F), ynghyd a gwyntoedd cryfion a choetiroedd sych yn gwaethygu’r broblem.