Mae bron i 40 o bobol wedi marw yn dilyn tanau ym Mhortiwgal.
Roedd nifer ohonyn nhw’n sownd yn eu ceir wrth i’r fflamau ledu drwy goedwig yn ardal Pedrogao Grande.
Bu farw 16 o bobol yn eu ceir rhwng trefi Figueiro dos Vinhos a Castanheira de Pera.
Mae diffoddwyr tân hefyd wedi cael eu hanafu.
Mae’r tymheredd ar draws y wlad wedi codi i 40 gradd selsiws dros y dyddiau diwethaf.
Mae’r digwyddiad wedi’i ddisgrifio gan y Prif Weinidog Antonio Costa fel “trychineb ar raddfa fawr”.