Mae Rwsia wedi cynnig y dylai deuddydd o drafodaethau heddwch yn ymwneud â Syria, ddechrau ar Orffennaf 4.

Fe ddaw’r cyhoeddiad wedi i luoedd Syria roi’r gorau i ymladd yn ninas Daraa, er mwyn ceisio dod i gytundeb yn y wlad.

Fe fyddai’r trafodaethau heddwch yn cael eu cynnal ym mhrifddinas Kazakhstan, Astana, a’r bwriad fyddai dod i gytundeb terfynol ar amodau unrhyw gadoediad, a sefydlu mannau diogel o fewn Syria.

Mae dirprwy weinidog tramor Rwsia, Mikhail Bogdanov, yn dweud fod y dyddiad i’w weld yn gyfleus gyda phawb o gylch y bwrdd. Mae Rwsia yn disgwyl i wledydd yr G20 sy’n cyfarfod yn yr Almaen ar Orffennaf 7, i drafod y rhyfel cartref yn Syria hefyd.

Mae Rwsia, Twrci ac Iran – sydd ar ochrau gwahanol yn y rhyfel cartref yn Syria – wedi bod yn cynnal sawl rownd o drafodaethau yn Astana eleni, gan ddod â llywodraeth y wlad a’r gwrthryfelwyr ynghyd.

Mae cennad y Cenhedloedd Unedig yn Syria wedi dweud ei fod yntau’n gobeithio cynnal rownd arall o drafodaethau heddwch yn ninas Genefa fis nesaf.