Mae lluoedd Syria wedi rhoi’r gorau i ymladd am ddeuddydd, er mwyn parchu cadoediad cenedlaethol.
Fe ddaeth y cyhoeddiad am ddinas Daraa yn ne’r wlad, wedi peth o’r ymladd mwya’ ciaidd gan wrthwynebwyr y llywodraeth. Yn y ddinas hon y dechreuodd y rhyfel cartref yn 2011.
Mewn datganiad, dywed byddin Syria ei bod yn rhoi’r gorau i gwffio o hanner dydd, ddydd Sadwrn, Mehefin 17, a hynny am 48 awr.
Hyd yma, mae cytundeb i roi’r gorau i ymladd gan bwyll bach – a grëwyd ar y cyd rhwng Iran, Rwsia a Thwrci ym mis Mai eleni – wedi methu â datrys y sefyllfa ymfflamychol yn y ddinas.
Mae’r cytundeb yn cyfeirio at bedair ardal yn Syria lle mae gwrthryfelwyr yn ymladd lluoedd llywodraeth y wlad.