Emmanuel Macron (Llun o gyfrif Twitter En Marche!)
Mae nifer isel o bobol wedi pleidleisio yn etholiadau Ffrainc, lle mae disgwyl i’r Arlywydd Emmanuel Macron ennill mwyafrif swmpus.
41% o’r boblogaeth oedd wedi pleidleisio erbyn y prynhawn yma, yn ôl y Weinyddiaeth Fewnol, ac mae’r ffigwr i lawr o 48% yn rownd gynta’r etholiadau seneddol yn 2012.
Mae 7,882 o ymgeiswyr yn brwydro am 577 o seddi yn y Cynulliad Cenedlaethol ac yn ôl rheolau’r etholiad, fe allai niferoedd isel o bleidleiswyr arwain at lai o ymgeiswyr yn cyrraedd y rownd nesaf ddydd Sul nesaf.
Fe allai buddugoliaeth sylweddol i Emmanuel Macron a’i blaid En Marche! niweidio’r gwrthbleidiau’n fawr, a byddai mwyafrif llwyr yn ei alluogi i weithredu ar ei addewidion etholiadol yn eu cyfanrwydd, gan gynnwys symleiddiol rheolau llafur a’i gwneud hi’n haws i ddiswyddo gweithwyr er mwyn rhoi hwb i recriwtio.
Gwrthwynebiad i Emmanuel Macron a’i bolisïau
Mae undebau llafur wedi gwrthwynebu ei gynlluniau eisoes.
Fe fydd mesurau diogelwch hefyd yn uchel ar ei agenda, gan gynnwys ymestyn y cyfnod o argyfwng yn dilyn cyfres o ymosodiadau brawychol.
Ond mae angen mwyafrif arno er mwyn eu gweithredu – ac mae hynny’n golygu ennill 289 o seddi.
Mae’r polau’n addawol i Emmanuel Macron, gyda rhai yn darogan y gallai ei blaid ennill hyd at 400 o seddi.
Mae disgwyl i’r Front National sicrhau eu perfformiad gorau erioed, ond fydd hynny ddim yn ddigon iddyn nhw ddod yn brif wrthblaid.