Muammar Gaddafi (Llun: PA)
Mae Saif al-Islam, mab cyn-arweinydd Libya Muammar Gaddafi, wedi cael ei ryddhau bum mlynedd ar ôl cael ei garcharu.

Dywedodd y rhai fu’n gyfrifol am ei gipio, Bataliwn Abu Bakr al-Siddiq, ei fod e wedi cael ei ryddhau ddydd Gwener.

Ond dydy hi ddim yn glir lle yn union mae e ar hyn o bryd.

Daeth cadarnhad ei fod e wedi cael ei ryddhau, ond fe ddywedodd swyddogion nad oedd modd dweud lle mae e oherwydd pryderon am ei ddiogelwch.

Cafodd ei ryddhau yn dilyn pardwn gan lywodraeth Libya yn nwyrain y wlad.

Cefndir

Cafodd Saif al-Islam ei gipio a’i garcharu yn 2011 ar ôl i’w dad gael ei ladd ar ôl mwy na 40 mlynedd mewn grym.

Fe fu’r wlad yn wynebu rhyfel cartref ers hynny, ac roedd Saif al-Islam wedi bod yn arwain lluoedd sy’n dryw i’w dad yn erbyn gwrthryfelwyr.