Mae pysgotwyr wedi bod yn cydweithio gyda’r llynges a’r llu awyr er mwyn ceisio dod o hyd i gyrff a rhannau o awyren yn y tonnau oddi ar arfordir Myanmar, lle plymiodd awyren filwrol  yn gynharach ddydd Iau. Roedd 122 o bobol ar ei bwrdd.

Roedd yr awyren pedair-injan wedi gadael Mergui ac yn anelu am Yangon.

Roedd hi’n bwrw, ond nid yn drwm iawn, ar yr adeg y diflannodd yr awyren oddi ar y radar tua 1.35yp. Bryd hynny, roedd hi i’r de-orllewin o ddinas Dawei.

Erbyn nos Iau, roedd 31 o gyrff – 21 o ferched, wyth o blant a dau ddyn – wedi’u canfod.

Fe gafodd y cyrff eu cludo i ysbyty filwrol yn Dawei.