Bom car Llun: PA
Mae bom car wedi lladd 12 o bobl yn Baghdad heddiw, oriau’n unig ar ôl i 15 o bobl farw mewn ffrwydrad tu allan i siop hufen ia ym mhrifddinas Irac.

Mae’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad cyntaf.

Daw’r ymosodiadau wrth i IS golli mwy o diriogaeth i luoedd Irac, sy’n cael eu cefnogi gan yr Unol Daleithiau, yn y frwydr dros Mosul, ail ddinas fwyaf y wlad.

Cafodd 27 o bobl hefyd eu hanafu yn yr ymosodiad tu allan i’r siop yn ardal brysur Karrada, meddai’r heddlu.

Yn yr ail ymosodiad, fe ffrwydrodd bom car yn ardal Shawaka yn ystod cyfnod prysura’r dydd. Cafodd 12 o bobl eu lladd yn yr ymosodiad hwnnw, a 23 o bobl eu hanafu.

Nid oes unrhyw un wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ail ymosodiad.