Mae Raqqa yng ngogledd Syria wedi’i bombardio â thaflegrau heddiw, wrth i ymladdwyr â chefnogaeth yr Unol Daleithiau geisio adennill y ddinas sydd wedi dod yn gadarnle i’r Wladwriaeth Islamaidd (IS).

Mae disgwyl y bydd Raqqa yn dod yn ganolbwynt yr ymladd yn y wlad dros yr wythnosau nesaf

Mae mwy o ymosodiadau o’r awyr wedi bod yn ystod y dyddiau diwethaf, ac mae ymladdwyr wedi bod yn agosau at y ddinas, a hynny o bob cwr.

Mae’r Lluoedd Democratiaidd – dan arweiniad milwyr Cwrdaidd – wedi llwyddo i gipio trefi a phentrefi yn yr ardal, gyda chefnogaeth o’r awyr gan America a’i chynghreiriaid. MAe ymladdwyr SDF hefyd wedi bod yn amgylchynu Raqqa o gyfeiriad y gogledd, y gorllewin a’r dwyrain.

Ar hyn o bryd, dim ond i gyfeiriad y de y gall lluoedd IS adael y ddinas. Ond hyd yn oed wedi iddyn nhw wneud hynny, mae America wedi dinistro dwy bont allweddol tros afon Ewffrates i’r cyfeiriad hwnnw.