Kim Jong Un, arweinydd Gogledd Corea
Mae Gogledd Corea wedi tanio taflegryn balistig mor bell â 300 milltir i ganol dyfroedd Japan.

Dyma’r diweddaraf mewn cyfres o lansiadau gan Kim JOng Un, wrth iddo geisio adeiladu taflegryn a all gyrraedd tir mawr yr Unol Daleithiau, meddai.

Fe daniwyd y math Scud o daflegryn o dref arfordirol Wonsan ddydd Llun, Mai 29, ond nid oes adroddiadau o ddifrod i gychod nac awyrennau Japan yn y dyfroedd lle glaniodd.

Does dim sôn wedi bod ar gyfryngau Gogledd Corea eto am y lansiad diweddaraf hwn.