Mae gwrthryfelwyr Mwslimaidd wedi saethu’n farw 16 o bobol gyffredin, yn ystod y frwydr am ddinas Marawi yn ne’r Ffilipinas.

Mae llefarydd ar ran byddin y wlad wedi cadarnhau fod y meirw’n cynnwys grwp o bedwar o ddynion, tair dynes a phlentyn a gafwyd yn farw ger y ffordd i Brifysgol Talaith Mindanao.

Fe gafodd wyth o ddynion eraill eu saethu’n farw a’u taflu i ffos ym mhentref Emi ger Marawi. Roedd darn o bapur wedi’i atodi i un o’r cyrff yn dweud fod y dynion “wedi bradychu eu ffydd”.

Mae’r fyddin yn dweud fod 61 o wrthryfelwyr wedi’u lladd ers dydd Mawrth.