Lionel Messi *Llun: AP/Victor Caivano)
Mae’r pel-droediwr, Lionel Messi, wedi colli ei apêl yn yr Uchel Lys yn erbyn dedfryd o dwyll treth yn ei erbyn yn Sbaen.

Mae’r llys wedi cadarnhau y 21 mis o garchar a ddedfrydwyd iddo am beidio â thalu 4.1 miliwn ewro (£3.5m) rhwng 2007 a 2009.

Does dim disgwyl iddo gael ei garcharu oherwydd bod dedfrydau o lai na dwy flynedd am droseddu’r tro cyntaf yn cael eu gohirio fel arfer yn Sbaen.

Ond mae disgwyl iddo dalu’r ddirwy o ddwy filiwn ewro (£1.72m) a gafodd ar ddiwedd yr achos gwreiddiol y llynedd.