Mae gwylwyr y glannau yn yr Eidal yn dweud fod beth bynnag 20 o ffoaduriaid wedi boddi yn y môr, wedi i’r cwch yr oedden nhw’n teithio ynddo droi drosodd ger arfordir Libya.

Roedd y bad yn cario cymaint â 500 o bobol, meddai’r awdurdodau, a’r gred ydi un ai ton fawr wedi ansefydlogi’r cwch a thaflu 200 o bobol i’r dwr.

Mae’r rhan fwyaf o’r rheiny a gafodd eu taflu i’r dwr, wedi cael eu hachub, ond mae 20 o gyrff wedi’u darganfod hefyd.

Mae gwylwyr y glannau yn cydweithio gyda chychod eraill yn yr ardal, er mwyn ceisio dod o hyd i fwy o bobol sydd wedi goroesi.

Yn ystod y 24 awr diwethaf, mae cyfanswm o 1,700 o bobol wedi’u hachub oddi ar 15 o gychod.