Mae cyrff pedwar o bobol wedi cael eu darganfod gan dimau achub Sherpa mewn pabell ar fynydd Everest wrth iddyn nhw symud corff arall.

Mae’n golygu bod deg o gyrff wedi cael eu darganfod yno eleni.

Dydy’r awdurdodau ddim wedi datgelu eto pwy yw’r pedwar y cafwyd hyd iddyn nhw ar uchder o 8,000 metr (26,247 o droedfeddi) neithiwr.

Ond fe fu farw Ravi Kumar o India, Roland Yearwood o’r Unol Daleithiau, Vladimir Strba o Slofacia a Francesco Enrico Marchetti o Awstralia dros y penwythnos.

Cafwyd hyd i’r cyrff ger y ganolfan olaf cyn y copa.