Donald Trump (Llun: Michael Vadon CCA 4.0)
Fe fydd Arlywydd yr Unol Daleithiau Donald Trump yn teithio i Israel ddydd Llun ar gyfer trafodaethau gydag arweinwyr Israelaidd a Phalestinaidd.

Yn ogystal â thrafodaethau gyda’r prif weinidog Benjamin Netanyahu ac Arlywydd Awdurdod Cenedlaethol Palestina, Mahmoud Abbas, mae Donald Trump hefyd yn bwriadu ymweld â chofeb yr Holocost Yad Vashem a Wal y Gorllewin yn Jerwsalem.

Yn ystod ymweliad Mahmoud Abbas a’r Tŷ Gwyn ym mis Mawrth, fe ddywedodd Donald Trump nad oedd e’n credu bod heddwch “mor anodd ag y mae rhai pobl wedi’i feddwl dros y blynyddoedd”  ond bod angen i’r ddwy ochr fod yn barod i ddod i gytundeb.”

Serch hynny, mae swyddogion y Ty Gwyn wedi awgrymu nad ydyn nhw’n disgwyl cynnydd sylweddol yn y broses heddwch yn ystod ymweliad Donald Trump a bod y daith yn fwy “symbolaidd.”

Fe fydd yn rhaid i Donald Trump droedio’n ofalus yn dilyn adroddiadau ei fod wedi datgelu cudd-wybodaeth yr oedd Israel wedi’i chasglu am y Wladwriaeth Islamaidd gyda swyddogion Rwsia, heb ganiatâd Israel.

Mae Israel hefyd wedi mynegi pryderon am y gwerthiant arfau, gwerth 110 biliwn o ddoleri, i Saudi Arabia a gyhoeddodd Donald Trump ddydd Sadwrn yn ystod ymweliad a Riyadh.