Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump (Llun: Wikipedia)
Fe fydd rhaid i Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump ateb cwestiynau am helynt yr FBI wrth iddo fynd ar ei daith dramor gyntaf ers iddo ddechrau ar y swydd.

Mae’r cyn-bennaeth James Comey wedi cytuno i roi tystiolaeth i bwyllgor cudd-wybodaeth y Senedd ar ôl cael ei ddiswyddo.

Ac mae’n debygol y bydd yr Arlywydd yn gorfod ateb cwestiynau am y ffrae sydd wedi arwain at ymchwiliad.

Yn ôl y Washington Post, mae un o brif gynghorwyr Donald Trump yn “berson o ddiddordeb” mewn ymchwiliad i ymddygiad staff Donald Trump o ran eu perthynas â Rwsia yn ystod yr ymgyrch arlywyddol a arweiniodd at fuddugoliaeth Donald Trump.

Ac mae’r New York Times yn adrodd bod yr Arlywydd Donald Trump wedi dweud bod diswyddo James Comey wedi tynnu “pwysau mawr” oddi arno fe.

Ond mae llywodraeth Donald Trump yn mynnu nad oedd diswyddo James Comey yn gysylltiedig ag ymchwiliad yr FBI i’r cysylltiadau â Rwsia.

Pwyllgor cudd-wybodaeth

Fe fydd James Comey yn rhoi tystiolaeth i’r pwyllgor cudd-wybodaeth yn y dyfodol agos.

Mae disgwyl y bydd yn cael ei holi am gyfarfodydd â swyddogion o Rwsia, gan gynnwys cinio ym mis Ionawr lle gofynnodd Donald Trump iddo fod yn ufudd.

Fe ddaeth i’r amlwg wedi’r cinio bod yr Arlywydd Donald Trump wedi gofyn i James Comey roi’r gorau i ymchwiliad i gyn-ymgynghorydd diogelwch y wlad, Michael Flynn.

Mae’r Times yn adrodd fod Donald Trump wedi galw James Comey yn “nut job”, ond mae ei lefarydd Sean Spicer wedi dweud mai rhan o “rethreg” yr Arlywydd oedd hynny.