Milwyr yn Syria
Mae’r glymblaid o fyddinoedd sydd wedi eu harwain gan yr Unol Daleithiau yn Syria, wedi taro milwyr llywodraeth ger y ffin â Jordan.

Cafodd ymosodiad o’r awyr ei lansio yn dilyn sawl rhybudd ac wedi i Rwsia fethu ag annog y milwyr i symud o’r ardal, yn ôl y glymblaid.

Mae Ysgrifennydd Amddiffyn yr Unol Daleithiau, Jim Mattis, wedi amddiffyn y weithred gan ddweud: “Dydyn ni ddim yn dwysau ein rôl yn Syria, ond rydym yn barod i amddiffyn ein milwyr.”

Hyd yma bu’r glymblaid yn targedu gwrthryfelwyr Islamaidd radical yn unig, a dyma’r tro cyntaf i ymosodiad gael ei lansio ar faes y gad yn erbyn lluoedd o blaid y llywodraeth.

Yn ôl ymgyrchwyr yn Syria, cafodd cerbydau eu dinistrio a chafodd pobol eu niweidio gan yr ymosodiad.