Emmanuel Macron yn y seremoni i'w urddo'n Arlywydd Ffrainc ddydd Sul (Llun: En Marche!)
Mae Arlywydd Ffrainc Emmanuel Macron wedi penodi Edouard Philippe, yn Brif Weinidog gan wireddu addewid a wnaeth yn ystod ei ymgyrch i gyflwyno wynebu newydd i’r senedd.

Roedd Alexis Kohler, ysgrifennydd cyffredinol newydd Emmanuel Macron ym Mhalas Elysee, wedi gwneud y cyhoeddiad ddydd Llun.

Nid yw Edouard Philippe, 46, yn wyneb cyfarwydd ym myd gwleidyddol Ffrainc ac mae’n aelod o’r blaid Weriniaethol asgell dde a ddioddefodd yn sgil llwyddiant Emmanuel Macron yn yr ymgyrch etholiadol.

Mae’r cyfreithiwr yn faer porthladd Le Havre yn Normandi ac awdur llyfrau gwleidyddol.

Mae Emmanuel Macron yn gobeithio y bydd penodiad Edouard Philippe yn annog Gweriniaethwyr eraill i bleidleisio o blaid ei ddiwygiadau economaidd wrth iddo geisio llunio senedd fwyafrifol.