Emmanuel Macron, Arlywydd Ffrainc, (Llun: PA/Thibault Camus)
Mae Arlywydd newydd Ffrainc, Emmanuel Macron wedi addo brwydro yn erbyn brawychiaeth ar ôl cael ei urddo’n swyddogol i’r swydd heddiw.
Cafodd ei dderbyn yn ffurfiol yn olynydd i Francois Hollande mewn seremoni fawreddog ym Mhalas Elysée ym Mharis.
Ac yntau’n 39 oed, Emmanuel Macron yw’r Arlywydd ieuengaf erioed yn hanes Ffrainc. Yn gyn-weinidog yr economi ar y wlad, fe hefyd yw’r Arlywydd cyntaf i gael ei ethol o’r tu allan i’r ddwy brif blaid.
Pan fydd Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ymhen dwy flynedd, Ffrainc fydd yr unig aelod o’r Undeb Ewropeaidd a chanddyn nhw arfau niwclear a sedd barhaol ar Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig.
Cafodd Emmanuel Macron a Francois Hollande gyfarfod preifat cyn y seremoni.
Araith gyntaf
Yn ei araith gyntaf yn Arlywydd Ffrainc, dywedodd Emmanuel Macron y byddai’n gwneud popeth o fewn ei allu i frwydro yn erbyn brawychiaeth ac i ddatrys problemau ffoaduriaid y byd.
Ymhlith ei flaenoriaethau eraill mae brwydro yn erbyn cyfalafiaeth a newid hinsawdd.
Dywedodd: “Byddwn ni’n derbyn ein holl gyfrifoldebau i ddarparu – yn ôl yr angen – ateb i argyfyngau cyfoes mawrion.”
Dywedodd hefyd y byddai’n ceisio sicrhau Undeb Ewropeaidd “mwy effeithiol, mwy democrataidd”.
Roedd oddeutu 300 o westeion yn y seremoni, gan gynnwys aelodau teulu Emmanuel Macron.
Traddodiad
Ar ôl y seremoni, yn ôl traddodiad y wlad, aeth yr Arlywydd newydd i Fedd y Milwr Anhysbys ar yr Arc de Triomphe.
Fe fydd e’n cyfarfod â Maer Paris, Anne Hidalgo yn ddiweddarach heddiw, a Changhellor yr Almaen, Angela Merkel yfory.
Fe fydd e hefyd yn penodi ei Brif Weinidog a’i lywodraeth ddydd Llun.