Emmanuel Macron (Llun: PA/Thibault Camus)

Fe fydd Emmanuel Macron yn cael ei urddo’n Arlywydd Ffrainc mewn seremoni fawreddog ym Mhalas Elysée ym Mharis heddiw.

Cafodd ei groesawu i’r Palas gan ei ragflaenydd, Francois Hollande wrth i’r ddau ysgwyd llaw gerbron newyddiadurwyr sydd wedi ymgasglu ar gyfer y digwyddiad.

Cafodd y ddau gyfarfod preifat yn swyddfa’r Arlywydd cyn gadael am y seremoni.

Pan fydd Prydain wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd ymhen dwy flynedd, Ffrainc fydd yr unig aelod sudd ag arfau niwclear a sedd barhaol ar Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig.

Dyletswyddau

Fe fydd Emmanuel Macron yn annerch y seremoni ar ôl dod yn Arlywydd yn swyddogol, cyn teithio i Fedd y Milwr Anhysbys yn yr Arc de Triomphe, yn ôl traddodiad arlywyddol y wlad.

Fe fydd e’n cyfarfod â Maer Paris, Anne Hidalgo yn ddiweddarach heddiw.

Ddydd Llun, fe fydd e’n teithio i’r Almaen i gyfarfod â’r Canghellor Angela Merkel ym Merlin, cyn dychwelyd i Ffrainc i ddechrau cyhoeddi pwy fydd ei Brif Weinidog ac i ffurfio’i lywodraeth.