Mae gwrthblaid Albania yn arwain gwrthryfel yn y wlad wrth iddyn nhw alw am sefydlu cabinet dros dro cyn yr etholiad seneddol fis nesaf.

Cymerodd miloedd o bobol ran yn y digwyddiad drwy’r brifddinas Tirana, a ddaeth i ben ger swyddfa’r Prif Weinidog, Edi Rama.

Un o arweinwyr yr orymdaith oedd arweinydd yr wrthblaid, Lulzim Basha, oedd wedi cymryd rhan yn y digwyddiad gyda’i wraig a’i ferched.

Mae’r wrthblaid wedi cadw draw o’r senedd ers mis Chwefror, ac maen nhw wedi dweud eu bod nhw’n disgwyl i gabinet Edi Rama ddylanwadu’n gryf ar ganlyniad y bleidlais.

Dydy’r gwrthbleidiau ddim wedi cofrestru eto ar gyfer yr etholiad cyffredinol ar Fehefin 18, ond maen nhw’n mynnu na all etholiad ddigwydd hebddyn nhw.

Fe allai Albania ddechrau trafodaethau i ymuno â’r Undeb Ewropeaidd ar ôl yr etholiad.

Mae mudiadau o blaid hawliau LGBT hefyd wedi bod yn gorymdeithio yn y wlad yn mynnu cael hawliau i gyplau o’r un rhyw gael priodi ac i bobol drawsryw gael cydnabyddiaeth.