Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump (Llun: Wikipedia)
Mae pedwar o ymgeiswyr yn y ras i fod yn bennaeth newydd yr FBI.

Bydd yr ymgeiswyr i olynu James Comey yn cael eu cyfweld gan Dwrnai Cyffredinol yr Unol Daleithiau, Jeff Sessions.

Mae lle i gredu bod y pennaeth dros dro, Andrew McCabe ymhlith y pedwar, ynghyd ag Alice Fisher, un o swyddogion llywodraeth George W Bush, y barnwr Michael Garcia a’r Seneddwr Gweriniaethol John Cornyn o dalaith Texas.

Cafodd James Comey ei ddiswyddo gan yr Arlywydd Donald Trump wrth i’r ymchwiliad i ymyrraeth Rwsia yn etholiad yr Unol Daleithiau barhau.

Mae’r ymchwiliad, oedd yn cael ei arwain gan James Comey, yn ystyried y cyswllt posib rhwng ymgyrch arlywyddol Donald Trump a llywodraeth Rwsia.

Mae Donald Trump wedi cyhuddo James Comey o fod yn un sy’n hoffi dwyn sylw arno fe ei hun.