Donald Trump (Michael Vadon CCA4.0)
Doedd yna ddim cydgynllwynio gyda Rwsia adeg etholiadau’r Unol Daleithiau, meddai’r Arlywydd Donald Trump, wrth i’r ffrae barhau rhyngddo ag asiantaeth yr FBI.

Fe ddywedodd wrth raglen NBC News yn America y byddai unrhyw ymyrraeth gan wlad arall yn “beth ofnadwy” a’i fod eisiau “dod o hyd i’r gwir”.

Ond mae pennaeth newydd yr FBI wedi mynd yn  hollol groes i rai o ddatganiadau’r Tŷ Gwyn am yr helynt ar ôl i’r Arlywydd roi’r sac i’w ragflaenydd.

‘Dangos ei hun’

Yn y cyfweliad teledu, roedd Donald Trump wedi ymosod yn bersonol ar James Comey, y dyn oedd yn arwain ymchwiliad asiantaeth droseddol yr FBI i’r honiadau am ymyrraeth gan Rwsia.

Fe ddywedodd ei fod yn licio dangos ei hun a chael sylw a’i fod ef, yr Arlywydd, wedi penderfynu rhoi’r sac iddo cyn derbyn adroddiad gan yr Adran Gyfiawnder yn argymell hynny.

Mae’r fersiwn yna’n wahanol i fersiynau swyddogol cynharach y Tŷ Gwyn ac roedd rhagor o broblemau i ddod.

Gwrthod honiadau Trump

Pan ymddangosodd pennaeth newydd yr FBI o flaen pwyllgor seneddol fe wadodd rai o honiadau llefarwyr Donald Trump.

Doedd hi ddim yn gywir i ddweud bod James Comey yn amhoblogaidd, meddai Andrew McCabe, ac, yn groes i ddatganiadau’r Tŷ Gwyn, roedd yr ymchwiliad i ymyrraeth gan Rwsia yn ymchwiliad pwysig.

Yr honiad yw fod llywodraeth Rwsia wedi hacio systemau cyfrifiadurol er mwyn helpu Donald Trump i ddod yn Arlywydd.