Nicolas Maduro, arlywydd Venezuela
Mae dwsinau o bobol wedi’u hanafu, a dyn 27 oed wedi’i ladd yn ystod diwrnod arall o wrthdaro treisgar ym mhrifddinas Venezuela.

Mae protestwyr wedi bod ar strydoedd Caracas ers wythnos yn mynnu eu hawl i etholiad i ddewis arlywydd yn lle Nicolás Maduro.

Mae milwyr y llywodraeth wedi bod yn tanio nwy dagrau at y bobol, wrth iddyn nhw drio gorymdeithio at y Goruchaf Lys.

Mae beth bynnag 84 o bobol wedi’u hanafu hyd yma, a bu farw’r myfyriwr, Miguel Castillo.