Mae heddlu yn Ne Affrica wedi bod yn saethu bwledi rwber at brotestwyr ar strydoedd Johannesburg.

Fe ddaw’r trais ar drydydd dydd o wrthdystio yn ardal Finetown, yn dilyn protestiadau yn gynharach yr wythnos hon yn Eldorado Park ac Ennerdale.

Mae’r protestwyr yn Finetown wedi bod yn taflu cerrig ac yn llosgi teiars, wrth iddyn nhw alw am dir a chartrefi deche.

Mewn achos hollol wahanol mewn ardal wahanol, mae protestwyr yn cael y bai am roi gorsaf heddlu a dwy fan ar dân yn Thohoyandou, tref rhyw 310 milltir i’r gogledd o Johannesburg.