Moon Jae-in
Mae Arlywydd newydd De Corea, Moon Jae-in wedi tyngu llw er mwyn cael dechrau ar ei waith yn swyddogol.

Mae’n disodli Park Geun-hye, sy’n wynebu cyhuddiadau o dwyll.

Enillodd Moon Jae-in 41% o’r bleidlais, gan guro Hong Joon-pyo (24%) ac Ahn Cheol-soo (21%).

Dywedodd ei fod yn barod i ymweld â Pyongyang yng Ngogledd Corea o dan yr amgylchiadau cywir er mwyn ceisio datrys yr anghydfod rhwng y ddwy wlad.

Ychwanegodd ei fod e hefyd yn barod i drafod system taflegrau dadleuol sy’n cael ei ddefnyddio yn Ne Corea. Mae China yn cyhuddo’r Unol Daleithiau o ddefnyddio’r system i ysbïo arnyn nhw.

Ar ôl dechrau ar ei waith yn swyddogol, mae disgwyl i Moon Jae-in enwebu Prif Weinidog, fydd yn gorfod cael sêl bendith gwleidyddion.

Daeth cyfnod Park Geun-hye i ben ddeufis yn gynnar, ond fydd Moon Jae-in ddim yn gwasanaethu am y deufis ychwanegol. Yn hytrach, fe fydd e’n dechrau ar y pum mlynedd sy’n arferol i Arlywydd y wlad.