Mae pennaeth yr FBI, James Comey wedi cael ei ddiswyddo ac mae Arlywydd yr Unol Daleithiau’n honni mai helynt e-byst Hillary Clinton sy’n gyfrifol am y penderfyniad.

Ond mae rhai yn honni mai’r ffaith fod James Comey wedi ymyrryd mewn ffrae tros ddylanwad Rwsia ar yr etholiad arlywyddol sydd wedi arwain at y penderfyniad.

Dywedodd yr Arlywydd Trump fod y penderfyniad yn angenrheidiol er mwyn adfer “ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd”.

Mae neges yn cael ei chylchredeg ar hyn o bryd lle mae’r Dirprwy Dwrnai Cyffredinol, Rod Rosenstein yn beirniadu’r ffordd y gwnaeth James Comey ymdrin â helynt ebyst Hillary Clinton.

Dyma’r ail waith yn unig i bennaeth yr FBI gael ei ddiswyddo – cafodd William Sessions ei ddiswyddo gan Bill Clinton yn 1993.

Mae’r penderfyniad gan Donald Trump wedi cael ei gymharu â phenderfyniad Richard Nixon i ddiswyddo’r erlynydd oedd yn ymchwilio i Watergate yn 1973.

Mae’r gwaith o ddod o hyd i olynydd James Comey eisoes wedi dechrau.