Donald Trump (Llun: Michael Vadon CCA 4.0)
Mae Donald Trump wedi wfftio honiadau newydd am ei gyn-ymgynghorydd diogelwch cenedlaethol Michael Flynn, a ymddiswyddodd yn sgil helynt am ei gysylltiadau gyda Rwsia.

Wrth siarad yn gyhoeddus am y tro cyntaf ddydd Llun, dywedodd y cyn-dwrne cyffredinol, Sally Yates, wrth bwyllgor seneddol ei bod hi wedi rhybuddio’r Tŷ Gwyn ym mis Ionawr ynglŷn â Michael Flynn.

Dywedodd y gallai gael ei “flacmelio” gan Rwsia am ei fod wedi “camarwain” ei benaethiaid ynglŷn â’i gysylltiadau gyda llysgennad Moscow yn Washington, Sergey Kislyak.

Cafodd Sally Yates ei phenodi gan lywodraeth Barack Obama a’i diswyddo gan Donald Trump ar 30 Ionawr ar ôl iddi wrthod cefnogi ei waharddiad ar deithwyr o wledydd Fwslemaidd.

Ond mae Donald Trump wedi wfftio’r honiadau gan ddweud bod sylwadau Sally Yates yn “hen newyddion”.  Mae’r Arlywydd eisoes wedi dweud nad yw’n ymwybodol o gysylltiad rhwng ei ymgynghorwyr a Rwsia yn sgil honiadau o ymyrraeth yn yr etholiad arlywyddol.