Mae Facebook wedi cyhoeddi y bydd yn cyflogi 3,000 o staff ychwanegol i adolygu fideos o droseddau a hunanladdiadau sy’n cael eu dangos yn fyw ar y wefan gymdeithasol.

Mae gan y cwmni eisoes 4,500 o bobol yn gwneud yr un gwaith, ond fe ddaw’r cyhoeddiad diweddaraf gan y prif weithredwr, Mark Zuckerberg ar ei flog pnawn Mercher.

Mae gwefan Facebook wedi dod dan y lach am beidio â gwneud digon i rwystro fideos o’r math – fel yr un yn dangos llofruddiaeth yn Cleveland ac o ladd bai yng Ngwlad Thai – rhag cael eu rhannu a’u lledu ar y gwasanaeth.

Mae fideos sy’n mawrygu trais yn mynd yn groes i amodau defnyddio Facebook.