Mae o leiaf saith o bobl wedi cael eu lladd a dros 50 wedi cael eu hanafu mewn llifogydd a tornados yn nhaleithiau Missouri, Arkansas a Texas yn America.

Fe fu farw pump o bobl mewn tri tornado yn nwyrain Texas, lle mae cerbydau wedi troi drosodd, coed wedi malu a chartrefi wedi’u dinistrio.

Cafwyd hyd i gorff gwraig 72 oed yn ne-orllewin Missouri ar ôl i lifogydd ei chipio ymaith wrth yrru ei char. Fe fu farw dynes arall wrth i goeden syrthio ar ei chartref symudol yn De Witt, Arkansas.

Mae dros 30 miliwn o Americanwyr yn cael eu rhybuddio i fod ar eu gwyliadwriaeth am lifogydd wrth i’r storm symud tua’r dwyrain.