Mae llywodraeth Twrci wedi rhwystro pobol y wlad rhag cael mynediad i wefan wybodaeth Wikipedia, yn ol corff arolygu.

Mae ‘Turkey Blocks’ yn cadw llygad ar ddefnydd pobol y wlad o’r we, ac mae’n dweud nad ydi defnyddwyr y rhyngrwyd yn Nhwrci yn medru cael mynediad i unrhyw fersiwn o Wikipedia ers ben bore Sadwrn.

“Mae hyn oherwydd bod y llywodraeth yn defnyddio ffilter i sensora gwybodaeth,” meddai ‘Turkey Blocks’.

Mae gwefan Wikipedia wedi’i blocio heb orchymyn llys, ond mae ‘Turkey Blocks’ yn disgwyl y bydd un o’r rheiny’n cael ei gyhoeddi yn ystod y dyddiau nesaf.