Saint-Benoit de la Reunion
Mae dyn sy’n cael ei amau o fod â chysylltiadau a charfannau radical o Islam, wedi saethu dau heddwas ar ynys Reunion, wrth iddyn nhw geisio ei arestio.

Mae’r achos yn destun ymchwiliad gan erlynwyr gwrth-frawychiaeth Ffrainc.

Roedd y ddau heddwas yn aelodau o lu arbennig ac yn gweithio yn nhre’ Saint-Benoit de la Reunion. Roedden nhw wedi trio arestio “unigolyn peryglus”, yn ôl datganiad.

Fe gafodd y dyn ei dawelu a’i arestio yn y man, ac mae’r awdurdodau yn Reunion yn dweud ei bod hi’n ymddangos mai gweithredu ar ei ben ei hun yr oedd o.