Damascus
Mae ffrwydriad mawr wedi ysgwyd prifddinas Syria ben bore Iau, ac mae tân wedi cynnau ger maes awyr Damascus.

Roedd y swn yn ddigon mawr i gael ei glywed ym mhob rhan o’r ddinas, ac fe gafodd nifer o’r trigolion eu deffro ganddo. Y gred ydi fod y ffrwydriad wedi digwydd ger y ffordd sy’n arwain at faes awyr Damascus.

Mae adroddiadau am y ffrwydriad wedi’u cario gan nifer o rwydweithiau newyddion, ond dyw hi ddim yn glir eto o lle tarddodd y stori.