Pab Ffransis
Mae arweinydd yr Eglwys Gatholig wedi rhybuddio pobol bwerus y byd i ymarfer ychydig o “wyleidd-dra” ac i ddangos mwy o gydymdeimlad at bobol dlawd a gwan y byd.

Fe wnaeth ei sylwadau yn ystod araith yn Vancouver, Canada, a oedd yn cael ei ffilmio a’i darlledu ledled y byd.

“Wrth i mi heneiddio, dw i wedi sylweddoli nad oes yna neb ohonan ni’n gallu bodoli fel ynys,” meddai’r Pab Ffransis.

“Gadewch i mi ddweud hyn yn glir ac yn uchel: y mwya’ pwerus ydach chi, y mwya’ o effaith y caiff eich gweithredoedd ar bobol. Ac felly, mae’n fwy o gyfrifoldeb arnoch chi i fod yn wylaidd.

“Os nad ydach chi’n ymarfer gwyleidd-dra, fe fydd eich grym yn eich dinistrio chi, ac mi fyddwch chi’n dinistrio pobol eraill.”