Yr ymosodiad yn Stockholm, Sweden
Mae’r heddlu yn Sweden wedi arestio ail berson mewn cysylltiad â’r ymosodiad yn Stockholm ar ddechrau’r mis.
Cafodd y dyn sydd dan amheuaeth ei arestio ddydd Sul ond nid oes unrhyw wybodaeth bellach wedi’i ddatgelu .
Bu farw pedwar person gan gynnwys Prydeiniwr, pan gafodd cerbyd ei yrru tuag at dorf o bobol ar stryd brysur ar Ebrill 7.
Mae dyn o Uzbekistan, Rakhmat Akilov, 39, eisoes wedi pledio’n euog o gyflawni ymosodiad frawychol.
Nid yw’n glir pam cafodd yr ymosodiad ei chynnal a does dim un grŵp eithafol wedi hawlio cyfrifoldeb.